Garden Machinery Sales and Service
AM Garden Services

Amdanom Ni

Sefydlwyd y busnes ym 1966 dan enw'r sylfaenwyr, A S Thomas a'i Feibion. Heddiw, rheolir y busnes gan Huw Thomas a Nest Evans (ðyr a wyres y sylfaenwr).

Mae'r busnes wedi bod yn arbenigo mewn peiriannau gardd o ansawdd ers y cychwyn ac mae wedi sicrhau enw da rhagorol am ei wasanaeth ar ôl gwerthu. Dyma brif fusnes y cwmni heddiw ac mae pob peiriant a werthir yn cynnwys y sicrwydd y bydd ein peirianwyr ni yn gwneud yr holl waith gwasanaethu neu gynnal a chadw.

Mae ystod y cynnyrch yn cynnwys - llifiau cadwyn, peiriannau torri llwyni, peiriannau tocio cloddiau, peiriannau torri glaswellt sy'n cael eu gyrru, tractorau lawnt, peiriannau rhwygo ac asglodi, peiriannau chwythu a sugno, peiriannau troi tir, generaduron ac offer arbenigol arall.

English

AM Garden Montage