Garden Machinery Sales and Service
AM Garden Services

Gwasanaeth Cymorth ar ôl Gwerthu

Mae'r gweithdy sy'n cynnwys yr holl offer angenrheidiol yn gallu delio â chynhyrchion petrol a thrydan ac mae'n cynnig gwasanaeth miniogi cadwyni. I beiriannau mawr, rydym yn cynnig gwasanaeth casglu a dychwelyd ac yn gwneud gwaith trwsio ar y safle ar gyfer problemau llai. Rydym yn delio â Cheredigion gyfan o'n safle yma yn Aberaeron.

Mae gan yr adran partiau gysylltiadau uniongyrchol gyda warysau partiau ein cyflenwyr ac ym mwyafrif yr achosion brys, gellir cael partiau y diwrnod wedyn. Rydym yn cadw ystod dda o bartiau sy'n symud yn gyflym a phartiau sy'n treulio. A fyddech gystal â sicrhau eich bod yn nodi gwneuthuriad, model a rhif cyfresol eich peiriant cyn gofyn am unrhyw bart sbâr.

Bydd hyn yn arbed amser ac yn sicrhau eich bod yn cael y part sbâr cywir ar gyfer eich peiriant.

English

AM Garden Montage