Amodau a Thelerau
Mae'n hanfodol bod ein cwsmeriaid yn teimlo'n ddiogel a bod ganddynt hyder yn y gwasanaeth a gynigiwn. Mae AM Garden yn gweithredu'r Cod Masnachwr ar y We canlynol sy'n god gwirfoddol. Nid yw'r cod hwn yn dirymu hawliau statudol cwsmeriaid dan y gyfraith mewn unrhyw ffordd ac fe'i cynlluniwyd i ychwanegu at iawndal cyfreithiol.
Gall ein Cwsmeriaid:
- Ganslo unrhyw archebion a wneir ar unrhyw adeg cyn iddynt gael eu dosbarthu heb orfod rhoi rheswm dros wneud hynny.
- Dan Rheoliadau Gwerthu o Bell 2000, gellir canslo archebion cyn pen 7 diwrnod gwaith a chyn pen 7 diwrnod gwaith o gael y nwyddau. Os ceir archeb na wnaethpwyd cais amdani, bydd y cyfnod canslo 7 diwrnod gwaith yn cychwyn ar y "diwrnod ar ôl" y diwrnod y cafwyd y nwyddau.
- Gellir gwneud archebion ar-lein gan ddefnyddio cerdyn credyd, trwy anfon cerdyn credyd ar wahân neu thrwy anfoneb proforma.
Prisiau
Nodir y prisiau mewn Punnoedd DU. Codir tâl am bostio a phacio ar raddfa sy'n adlewyrchu maint yr archeb, a'r pellter yn y DU ac ar draws y byd. Gellir gweld manylion llawn yma.
Dosbarthu
Dosbarthir yr holl archebion cyn pen 48 awr o'r arian yn cyrraedd. Os na allwn ddosbarthu cyn pen yr amser y cytunwyd arno am unrhyw reswm, byddwn yn eich hysbysu'n syth ac ar ôl i chi gytuno, yn trefnu amser arall i'w ddosbarthu.
Diogelwch
Prosesir yr holl fanylion talu gan ddefnyddio technoleg amgryptio 128 did.
Dychwelyd nwyddau ac ad-daliadau
Os nad ydych yn fodlon â chynhyrchion a brynoch gennym, gallwch eu dychwelyd yn yr un cyflwr cyn pen 7 diwrnod o'u cael a chael ad-daliad llawn gennym. Chi sy'n gyfrifol am dalu'r gost o'u postio'n ôl atom.
Nid ydym yn gyfrifol am nwyddau sy'n cael eu colli neu eu difrodi wrth gael eu cludo. Mae prawf postio yn brawf digonol o'u cael.
Nid yw'r Gwarant Cynnyrch Cyfyngedig hwn yn effeithio ar hawliau statudol y prynwr.
Derbynebau, biliau a chamgymeriadau setlo
Rydym bob amser yn darparu derbynneb gyda'r nwyddau. Byddwn yn cywiro unrhyw gamgymeriadau mewn biliau, derbynebau neu daliadau cyn gynted ag y bo modd.
Delio â chwynion
Rydym yn addo delio â chwynion mewn ffordd effeithiol a:
- theg;
- cyfrinachol;
- effeithiol;
- hawdd i'w defnyddio gan roi cyhoeddusrwydd da iddi;
- cyflym - dylech gael cyfyngiadau amser ar gyfer gweithredu a hysbysu cwsmeriaid ynghylch yr hyn yr ydych yn ei wneud;
- hysbysol - er mwyn i chi wybod pa wasanaethau y mae angen i chi eu gwella;
- syml i'w deall a'i defnyddio; ac
- wedi'i harchwilio - i sicrhau ei bod yn gweithio'n dda ac yn gwella.
Mae gwasanaeth a chymorth ar gael i gwsmeriaid trwy gyfrwng E-bost unrhyw bryd neu thrwy ffonio 01545 570853 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5.30 pm ac ar ddydd Sadwrn rhwng 9am ac 1.00pm.
Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynghylch y datganiadau uchod at Wasanaeth Rheoli Cwsmeriaid AM Garden (e-bost: info@comptoncymru.com i gael eglurhad.
